Mae Dyfodol i’r Iaith wedi anfon sylwadau beirniadol ar Gyllideb ddrafft y Llywodraeth i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad. Mae’r mudiad yn herio sail y toriadau i feysydd yn ymwneud a’r Gymraeg ac yn galw am i’r Llywodraeth ddileu’r toriadau niweidiol hyn, sy’n tynnu’n groes a’u hamcanion strategol a’u dyletswyddau cyfreithiol.
Dywed Dyfodol bod y Cyllid drafft yn dangos bod y Llywodraeth yn cael mwy o arian bob blwyddyn o Lundain, a bod y toriadau i’r Gymraeg yn gwbl ddiangen.
Bydd y Llywodraeth yn derbyn 4% yn rhagor o arian erbyn 2019-20, ac mae’r swm yn cynyddu fesul blwyddyn.
Mae’r ffigyrau a ddefnyddir gan y Llywodraeth i gyfiawnhau’r toriadau yn seiliedig ar lefel chwyddiant o 3.6%, lefel sy’n llawer uwch na’r uchafswm o 0.5% a welwyd yn ystod 2015, ac yn uwch na rhagolygon Trading Economics o 2.1% erbyn 2020. Bydd y toriadau i’r Gymraeg yn cael eu cynyddu yn sgil chwyddiant, serch bod cyllid y Llywodraeth yn cynyddu mewn gwirionedd. Dyma benderfyniad sy’n dangos diffyg blaenoriaeth a gweledigaeth tuag at y Gymraeg yn hytrach nag unrhyw reidrwydd economaidd.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “ Wrth gyflwyno’r toriadau hyn, mae’r Llywodraeth yn tynnu’n groes i’w hymrwymiad polisi tuag at y Gymraeg. Ar amser allweddol fel hwn, mae cwtogi’r gefnogaeth i ddiwylliant, celfyddyd, cyhoeddi a darlledu cyfrwng Cymraeg yn gywilyddus. Ar yr un pryd, mae cynlluniau sy’n hyrwyddo’r iaith yn cael eu torri a’i dileu tra erys y twf yn addysg Gymraeg yn anfoddhaol. ’Does angen fawr o ddychymyg i ragweld yr effaith gronnus druenus gaiff hyn ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg.”
“ Yn hytrach na thoriadau i’r meysydd allweddol hyn, mae angen i’r Llywodraeth gyflwyno rhaglen gynhwysfawr sy’n rhoi pwyslais ar hyrwyddo defnydd o’r iaith ym mhob agwedd o fywyd teuluol, cymdeithasol, diwylliannol a’r gweithle. Ni fydd modd gwneud hyn heb sicrhau cyllid teilwng.”