Gweler isod lythyr Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol ar doriadau i’r Gymraeg. Anfonwyd copi at Y Cymro a Golwg. Anfonwyd at bod Aelod Cynulliad yn ogystal, gan ofyn am eu sylwadau a’u cefnogaeth
Annwyl Olygydd,
Fe dynnodd Dyfodol i’r Iaith sylw at y ffaith fod cyllid y Llywodraeth Cymru’n codi bob blwyddyn tan 2019/20 a bod dim sail ariannol, felly, dros dorri arian i’r Gymraeg gan 6%. Gwirionedd yw hyn ond mae’r Llywodraeth yn ceisio’i liwio a’i guddio.
Fe ddywedodd llefarydd y Llywodraeth fod ‘honiadau Dyfodol i’r Iaith yn gamarweinol’ ac nad ydynt ‘yn adlewyrchu realiti’r sefyllfa ariannol’.
Pwy sy’n twyllo pwy tybed? Dyma’r arian a gaiff Llywodraeth Cymru yn y setliad ariannol o Lundain, fesul blwyddyn:
2015-6 £14.38 biliwn
2016-7 £14.56 biliwn
2017-8 £14.67 biliwn
2018-19 14.77 biliwn
2019-20 14.93 biliwn
Erbyn 2019-20, bydd y Llywodraeth yn derbyn hanner biliwn o bunnoedd yn ychwanegol. Mae hyn yn gynnydd o ryw 4%. Mae’r Llywodraeth yn dweud, fodd bynnag, fod yr arian a gaiff ‘yn parhau i grebachu mewn termau real’, sef gwerth yr arian ar ôl chwyddiant.
Pe bai’r Llywodraeth yn dal i roi’r un swm i’r Gymraeg, byddai’r ‘gwerth real’ yn lleihau, felly, yn ôl y raddfa chwyddiant. Ond trwy dorri’r arian i’r Gymraeg, mae’r Gymraeg yn dioddef ddwywaith – yr arian go iawn yn eich llaw – toriad o 6% – a gwerth yr arian ar ôl chwyddiant.
Dim ond un rheswm sy’n esbonio’r toriadau i’r Gymraeg, sef bod y Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth isel iddi.
Mae hyn yn dilyn sawl ergyd i’r iaith a’i siaradwyr:
- Toriadau i S4C a bygythiadau pellach
- Methiant y Llywodraeth i sicrhau twf addysg Gymraeg
- Toriadau’r Llywodraeth i arian Cymraeg i Oedolion
- Toriad o 10% i gyhoeddi Cymraeg
Mae Dyfodol i’r Iaith yn ddigon parod i ganmol y Llywodraeth pan mae’n haeddu. Mae unrhyw arian i’r Gymraeg yn talu ar ei ganfed – o ran swyddi a denu gwirfoddolwyr, cynnal diwylliant a chreu amodau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.
Erbyn hyn mae angen gweledigaeth glir ar sut mae cynyddu nifer siaradwyr Cymraeg, a chynyddu’r defnydd o’r iaith. Mae’r Llywodraeth yn honni ei bod yn ‘rhoi blaenoriaeth i bob gweithgarwch sy’n cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg’. Ond does dim un wlad arall wedi gweld cynnydd ieithyddol trwy dorri arian i’w hiaith. Oes gan ein Llywodraeth ni gyfrinach yn hyn o beth?
Mae onestrwydd wrth drafod y toriadau i’r Gymraeg yn gam cyntaf i drafodaeth greadigol.
Yn gywir
Heini Gruffudd
Cadeirydd, Dyfodol i’r Iaith