Gydag etholiad y Cynulliad o’n blaenau, bydd dechrau 2016 yn amser prysur o safbwynt lobio, ac mae’n bwysig ein bod yn pwyso neges ein Maniffesto ar y pleidiau a’u hymgeiswyr. Byddai’n wych pe bae ein haelodau a’n cefnogwyr yn gallu cysylltu â’u hymgeiswyr lleol gyda’r prif negeseuon o safbwynt y Gymraeg, a mawr obeithiwn y byddwch yn manteisio ar y cyfle.
Gweler isod patrwm o lythyr sy’n crynhoi’r prif flaenoriaethau i chwi ei ddefnyddio a’i addasu …
Annwyl …
Wrth i’r ymgyrchu ar gyfer etholiadau’r Cynulliad gynyddu dros y misoedd nesaf, ysgrifennaf atoch fel aelod o’r grŵp lobio, Dyfodol i’r Iaith i amlinellu’r hyn a gredaf yw’r blaenoriaethau ar gyfer sefydlu sylfaen gadarn i’r Gymraeg dros y pum mlynedd nesaf.
Credaf fod angen newid cyfeiriad polisi sylfaenol mewn perthynas â’r iaith. Bod angen symud o fynnu ar statws a hawliau’r Gymraeg i gynyddu niferoedd siaradwyr a chreu cyfleoedd ymarferol i ddysgwyr a’r sawl sy’n rhugl gael ei defnyddio’n rhwydd yn ein bywydau dydd-i-ddydd. Byddai hyn yn cynnwys ei defnydd ar yr aelwyd, yn y gwaith, ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
Yn ogystal â gwarchod hawliau ieithyddol wrth gysylltu â chyrff swyddogol, mae angen rhoi sylw iddi fel cyfrwng naturiol ac anffurfiol. Trin yr iaith yn gadarnhaol, drwy hyrwyddo’n hytrach na’i gorfodi. Teimlaf yn gryf mai drwy feithrin hyder a phleser yn y Gymraeg mae sicrhau ei chynnydd.
Er mwyn cyflawni hyn, mae angen sylw penodol ar rai meysydd a byddwn yn galw am wyth cam allweddol i wneud gwir wahaniaeth i ddyfodol y Gymraeg:
- Cynyddu Addysg Gymraeg, gan osod nod o gael 50% o blant 7 oed mewn Addysg Gymraeg erbyn 2030
- Datblygu cynlluniau Cymraeg i Oedolion, gyda’r pwyslais ar ddatblygu’r gweithlu a chefnogi rhieni
- Sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg ledled Cymru i gydweithio, cydgysylltu a sbarduno gweithgareddau Cymraeg
- Hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg llafar, wyneb yn wyneb i gwsmeriaid y sector gyhoeddus a phreifat, yn enwedig mewn siopau a mannau cymdeithasu
- Datblygu gweithleoedd Cymraeg mewn gweinyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus ac ym myd busnes
- Penodi Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol, lle byddai’r Gymraeg yn ystyriaeth hanfodol mewn polisi cynllunio a chartrefu
- Sicrhau dyfodol llewyrchus i S4C a’r cyfryngau torfol a chymdeithasol Cymraeg, gan gynnwys darparu ail sianel radio
- Sefydlu Gweinyddiaeth i’r Gymraeg, gydag arbenigedd digonol, o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn:
- Llunio strategaeth gynhwysfawr a chyson
- Rhoi gweithredu’r strategaeth yng ngofal Asiantaeth Iaith hyd-braich â’r rhyddid i arloesi a sbarduno.
Gwyddom fod y camau hyn yn effeithiol. Mae’r argymhellion uchod yn seiliedig ar yr hyn a weithredwyd yng Ngwlad y Basgiaid, lle gwelwyd cynnydd o bron i 200,000 o siaradwyr dros gyfnod o ugain mlynedd.
Yn amlwg, bydd angen blaenoriaeth ddyledus a chyllid digonol i gyflawni hyn oll, a byddwn yn galw am wrthdroi’r toriadau diweddar a amlinellwyd i gyllid y Gymraeg.
Byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai modd i chwi ystyried y camau hyn, a byddwn yn gwerthfawrogi eich sylwadau arnynt,
Yn Ddiffuant