Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi penodi Prif Weithredwr am y tro cyntaf. Cafodd Ruth Richards, o Fiwmares, ei phenodi i arwain y mudiad.
Mae gan Ruth Richards dros ugain mlynedd o brofiad mewn polisi cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys mewn llywodraeth genedlaethol a lleol, gyda phwyslais penodol ar bolisi cymdeithasol, yr iaith Gymraeg, cydraddoldeb ac ymgysylltu cymunedol.
Bu am ddeng mlynedd yn swyddog cydraddoldeb ac iaith yng Nghyngor Gwynedd a chyn hynny bu’n gydlynydd gwrth-dlodi yng Ngwynedd. Bu ganddi amrywiol swyddi cyn hynny, a bu am chwe blynedd yn ymchwilydd yn Nhŷr Cyffredin.
Meddai Ruth Richards, ” Peth cyffrous yw cael cychwyn y flwyddyn gydag her newydd, ac edrychaf ymlaen yn arw at gychwyn fy swydd newydd gyda Dyfodol i’r Iaith: at weithio gyda’r Cyfarwyddwyr a’r aelodau er mwyn sicrhau dyfodol grymus i’r Gymraeg, a hynny ar adeg mor fywiog a phwysig yn ei hanes.
“Dros y misoedd nesaf, bydd Dyfodol yn llunio cyfres o flaenoriaethau ar ffurf Cynllun Iaith i Gymru, i’w chyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Teimlaf yn hynod o falch o gael y cyfle i gyfrannu at y datblygiad arwyddocaol hwn.”