Ar ôl dwy flynedd o lobio dygn ar roi lle i’r Gymraeg yn y Bil Cynllunio, mae ymdrechion Dyfodol i’r Iaith wedi dwyn ffrwyth. Mae’r Gymraeg bellach yn rhan o’r Mesur Cynllunio, ac yn ystyriaeth ar sail cyfraith, a fydd yn gallu trawsnewid y modd y caiff cynlluniau tai eu trin gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Enillwyd hyn trwy drafod ac argyhoeddi.
Cychwynnodd Dyfodol i’r Iaith lobio yn sgil gwendid y rheolau TAN20 oedd yn rhoi peth hawl i awdurdodau lleol ystyried y Gymraeg. Dilynwyd hyn gan TAN20 oedd ychydig yn gryfach, ond heb roi sail gyfreithiol gadarn i ystyried y Gymraeg.
Cyfarfu Dyfodol i’r Iaith dair gwaith â Carwyn Jones, y Prif Weinidog, a hefyd sawl gwaith â swyddogion cynllunio’r Llywodraeth. Cynhaliwyd cyflwyniad ar y mater yn y senedd i argyhoeddi aelodau cynulliad o bob plaid a chysylltwyd ag Aelodau Cynulliad o bob plaid.
Llwyddwyd i argyhoeddi’r gwleidyddion o’r angen am gael y Gymraeg yn rhan o’r Bil. Roedd tystiolaeth Meirion Davies, aelod o fwrdd Dyfodol i’r Iaith, ar effaith y drefn bresennol o gynllunio tai, yn gyfraniad o bwys. Yn dilyn hyn bu trafodaeth fanwl ar eiriad a fyddai’n bodloni. Yn ystod y camau hyn a’r rhai blaenorol, roedd cymorth Emyr Lewis i’r gwleidyddion yn allweddol. Llwyddwyd i gael geiriad i welliant i’r Bil a oedd yn glir ac yn syml.
Wrth i Ddyfodol yr Iaith arwain y ddadl gyhoeddus, a bod yn barod i drafod â gwleidyddion a swyddogion, cafwyd bod drysau ar agor heb fod angen eu gwthio. Mae sawl cam arall yn weddill, ond am y tro mae modd i ni ymfalchïo ein bod wedi dwyn un maen i’r mur.