DYFODOL YN GALW AM DRYLOYWDER YNGLŶN A THORIADAU I’R GYMRAEG

Yn dilyn cadwyn o ergydion i gyllid y Gymraeg, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am fwy o dryloywder ynglŷn â’r toriadau. Yn yr wythnosau diwethaf, cafwyd wybod am doriadau i gyllid S4C; i’r arian a glustnodwyd ar gyfer hyrwyddo’r iaith; ac yna, yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddwyd toriad sylweddol i gyllid y Cyngor Llyfrau. O edrych ar y patrwm yn ei gyfanrwydd, mae’r effaith gronnus ar ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg yn argyfyngus.

Mae Dyfodol yr Iaith yn honni bod y Llywodraeth, yn ôl ei ffigurau ei hun, yn mynd i dderbyn mwy o arian bob blwyddyn o Lundain, nid llai, ac nad oes angen cwtogi.

Mae’r darlun a gyflwynir gan y llywodraeth i gyfiawnhau’r toriadau hyn felly’n llai nag onest, yn ôl y mudiad. Tra bod y llywodraeth yn honni eu bod yn derbyn llai o arian, dim ond ar sail chwyddiant mae modd cyfiawnhau hynny.  Mae’r llywodraeth yn honni bod chwyddiant yn 3.6%, pan mewn gwirionedd, mae’r lefel yn llawer is na hyn, ac yn agosach at 1%.

Dywedodd Elinor Jones, Llywydd Dyfodol i’r Iaith: “ Mae’r toriadau diweddar yn debygol o gael effaith andwyol ar ddiwylliant Cymraeg. Mae’r cyllid fel y mae yn druenus o bitw; sefyllfa sy’n dangos diffyg parch tuag at Gymraeg, ac un sy’n golygu y byddai unrhyw doriad yn debygol o gael effaith anghymesur. Mae llewyrch a dyfodol ein hiaith a’n diwylliant yn fater rhy sylweddol i gael ei wthio o’r neilltu a’i gladdu gyda geiriau twyllodrus.”

“ Mae Dyfodol eisoes wedi galw am gyfarfod brys gyda’r Prif Weinidog, a byddwn yn pwyso arno ymhellach yn sgil y datblygiadau diweddaraf.”

CYLLID I HYRWYDDO’R GYMRAEG: DYFODOL YN GALW AM GYFARFOD A’R PRIF WEINDOG

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gofyn am gyfarfod brys gyda’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, i gael esboniad am fwriad y Llywodraeth i dorri gwariant ar y Gymraeg. Daw’r cais  yn sgil cyllideb ddrafft y Llywodraeth sy’n amlinellu’r bwriad i dorri £1.6 miliwn (19%) o gyllid y Gymraeg.

Er bod y Llywodraeth bellach wedi cadarnhau y bydd arian ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer y Gymraeg yn y gymuned, bydd yr ychydig wariant ar y Gymraeg yn dal i ostwng.

Yn ôl Dyfodol i’r Iaith, mae’r toriad hwn yn tanseilio’n llwyr hyder yn ymrwymiad y Llywodraeth i’r Gymraeg, gan fod yr arian yma’n debygol o effeithio ar fentrau a phrosiectau sy’n gwneud gwir wahaniaeth i’r iaith. Mae Dyfodol i’r Iaith am weld cynnydd sylweddol yn yr arian i gefnogi siaradwyr newydd o bob oed i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau allweddol i’w dyfodol; y cartref, y gymuned, siopau, busnesau a bywyd cymdeithasol.

Mae’r Llywodraeth wedi llwyddo i cynyddu gwariant mewn sawl maes, ond nid y Gymraeg.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, ” Ni allwn gyrraedd y nod o Gymru ddwyieithog heb ymrwymiad brwd gan y Llywodraeth. Mae angen rhaglenni hyrwyddo eang i hybu defnydd o’r iaith ac i gynyddu siaradwyr. Heb ddiogelu’r elfen sylfaenol hon, daw unrhyw fesur rheolaethol, megis y safonau iaith yn gynyddol ddibwys.”

“Byddwn yn pwyso am gyfarfod gyda’r Prif Weinidog cyn gynted â phosib i gael eglurhad o’r sefyllfa ac i bwysleisio pwysigrwydd allweddol y cyllid hwn i dwf y Gymraeg.”