YMATEB DYFODOL I’R MAP AWDURDODAU LLEOL NEWYDD

Wrth dderbyn yr her sy’n wynebu llywodraeth leol yng Nghymru, mae Dyfodol i’r Iaith wedi bod yn pwyso am ystyriaeth ddwys i’r Gymraeg drwy gydol y broses o ail-lunio ffiniau’r awdurdodau newydd.

Mae’n broses sy’n cynnig cyfleoedd a bygythiadau i hyrwyddo’r Gymraeg o safbwynt ei statws cyhoeddus, darparu gwasanaethau, a sefydlu gweinyddiaeth a gweithlu lle rhoddir pwyslais a gwerth dyledus i’r iaith.

Mae’r ffiniau a gyhoeddwyd heddiw yn gosod her i gynyddu defnydd y Gymraeg ar draws yr awdurdodau newydd, a bydd Dyfodol yn parhau i lobio a chyd-weithio er mwyn sicrhau cynnydd yn hytrach nag unrhyw ddirywiad yn sgil cyhoeddi’r map diwygiedig.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae’n hanfodol bwysig i ni warchod y gwaith da a gyflawnwyd eisoes, a thrwy hyn osod sylfaen ar gyfer rhannu a chynyddu ymarfer da.

Fel cam cyntaf, mae Dyfodol i’r Iaith yn gofyn am ymrwymiad y bydd unrhyw gyngor newydd yn y gogledd-orllewin yn gweithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg fel sy’n digwydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

Dylid ystyried yn ofalus pa ffiniau fyddai’n addas er mwyn hyrwyddo gweinyddiaeth mewnol cyfrwng Cymraeg. Mae dadl gref o safbwynt polisi iaith o blaid cael tri cyngor yn y gogledd: Gwynedd a Môn, Dinbych a Chonwy a Fflint a Wrecsam.”

DYFODOL I’R IAITH YN GWRTHWYNEBU CYNLLUN CODI TAI

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan gwrthwynebiad i’r cynllun i godi 69 o dai newydd yng Nghoetmor, Bethesda. Bydd yn cynllun yn mynd gerbron Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd dydd Llun nesaf (Mehefin 15), ac argymhelliad yr Adran Gynllunio yw i ganiatáu’r datblygiad.

Mae Dyfodol o’r farn y bod hwn yn gynllun sy’n gwbl anaddas ac ansensitif i anghenion a phroffil ieithyddol yr ardal. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae Bethesda’n un o’r ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn dal ei thir, gyda dros 70% o’r trigolion yn gallu siarad yr iaith.

Mae’r mudiad wedi annog ei aelodau yng Ngwynedd i ddatgan eu barn drwy ymuno â chyfarfod protest Pwyllgor Diogelu Coetmor fydd yn ymgynnull tu allan i Siambr y Cyngor o flaen y Pwyllgor Cynllunio.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn diogelu’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd, ac yn cymryd pob cam ymarferol i sicrhau ei pharhad fel cyfrwng naturiol y cymunedau hyn.

Gwelwn o’r achos hwn y berthynas allweddol rhwng polisi cynllunio ac amddiffyn iaith ein cymunedau. Dengys yn ogystal bwysigrwydd y fuddugoliaeth ddiweddar o gynnwys ystyriaeth i’r iaith mewn perthynas â cheisiadau cynllunio unigol yn y Bil Cynllunio newydd: Newid y bu Dyfodol y lobio’n daer i’w gael ar statud.”

DYFODOL I’R IAITH YN CROESAWU MWY O GANOLFANNAU IAITH

Rhoddodd Dyfodol i’r Iaith groeso cynnes i ddatganiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y bydd £1.5 miliwn ar gael i sefydlu canolfannau Cymraeg ledled Cymru.

Ariannir prosiectau ym Môn, Caerdydd, Tregaron, Bangor, Aberteifi a Phontardawe.

Mae Dyfodol i’r Iaith o’r farn y bod canolfannau o’r math yn allweddol bwysig i adnewyddiad y Gymraeg. Dengys llwyddiant y canolfannau a sefydlwyd eisoes eu bod yn fodd i greu rhwydweithiau arloesol, anffurfiol a hwyliog i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“Ein gobaith yw gweld canolfannau’n cael eu sefydlu ledled y wlad, yn bwerdai i’r iaith. Daw y datganiad hwn â ni gam ymlaen at wireddu ein gweledigaeth. Gobeithiwn yn ogystal y bydd yn gam cyntaf tuag at strategaeth newydd ac ehangach i ddysgu Cymraeg i oedolion.”