Mae angen rhwydwaith o ganolfannau dysgu Cymraeg i oedolion tebyg i rai Popeth Cymraeg. Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith, wrth i newidiadau yn nhrefn cyllido Cymraeg i Oedolion gael ei sefydlu. Mae Popeth Cymraeg wedi sefydlu canolfannau dysgu yn Ninbych, Llanrwst, Prestatyn a Bae Colwyn.
“Mae cael rhwydwaith o ganolfannau cymdeithasu a dysgu Cymraeg yn allweddol i roi cyfleoedd siarad ac i ddod â siaradwyr, dysgwyr a phobl ifanc at ei gilydd,” medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
Ychwanegodd, “Mae Ioan Talfryn a’i swyddogion wedi dangos dewrder a menter wrth sefydlu eu canolfannau. Maen nhw wedi cael cefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych a’r Loteri Genedlaethol. Maen nhw’n cynnig model ardderchog i’w efelychu ledled Cymru.”
Meddai, “Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd trefn newydd cyllido Cymraeg i Oedolion yn dal i roi’r un gefnogaeth i’r canolfannau hyn ag yn y gorffennol, gan gynnig patrwm o gydweithio creadigol.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £1.25 miliwn i sefydlu canolfannau i hyrwyddo’r Gymraeg, ac mae datblygiadau ar y gweill yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Wrecsam.
Meddai Mr Gruffudd, “Rydyn ni’n gobeithio hefyd y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda sefydliad Popeth Cymraeg, a gyda chanolfannau eraill sydd eisoes yn bod, fel Saith Seren Wrecsam, fel bod cydlynu call yn digwydd rhwng Llywodraeth ganol, Cymraeg i Oedolion, a’r canolfannau Cymraeg unigol.”