Mae sefydlu Canolfannau Cymraeg mewn ardaloedd sydd wedi gweld y Saesneg yn dod yn brif iaith, yn gam allweddol wrth adfywio’r iaith yn yr ardaloedd hynny. Dyna honiad Dyfodol i’r Iaith wrth i gynlluniau am Ganolfannau Cymraeg ddod yn agos at eu gwireddu yn Llanelli a mannau eraill. Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Wrth i sefydliadau traddodiadol sydd wedi cefnogi’r iaith a chymdeithasu trwy’r Gymraeg edwino, mae hi’n dod yn fwyfwy pwysig bod gan gymunedau yng Nghymru ganolfannau sy’n rhoi modd i bobl leol gymdeithasu a mwynhau gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.” “Mae Canolfannau Cymraeg yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn anffurfiol, ac yn rhoi cyfle hefyd i bobl ifanc fwynhau bywyd Cymraeg y tu allan i’r system addysg.” “Mae modelau ar gael yn Abertawe a Merthyr Tudful sy’n profi bod Canolfannau Cymraeg yn gallu llwyddo a dod yn ffocws i fywyd Cymraeg. Mae cael mudiadau Cymraeg, Cymraeg i Oedolion, y Mentrau Iaith a llywodraeth leol i ddod at ei gilydd yn allwedd llwyddiant, ond yr un mor bwysig yw bod gwirfoddolwyr lleol yn ganolog i’r fenter.” “Mae’n wych bod y Llywodraeth yn rhoi arian cyfalaf i gefnogi sefydlu Canolfannau Cymraeg mewn sawl rhan o Gymru. Y ddelfryd yw bod y rhain yn amlhau a’u bod yn dod yn ganolfannau dysgu a chymdeithasu, yn debyg i’r 200 o ganolfannau yng Ngwlad y Basgiaid.” “Gyda’i gilydd, gallan nhw gyfrannu’n greadigol at drawsnewid ieithyddol yn ardaloedd Seisnigedig Cymru.”