MEIRION PRYS JONES I GLORIANNU YMDRECHION IAITH Y LLYWODRAETH

Bydd Meirion Prys Jones, cyn bennaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn rhoi’r Llywodraeth yn y glorian yng nghynhadledd flynyddol Dyfodol i’r Iaith.

Bydd Meirion yn pwyso a mesur pa mor llwyddiannus fu trosglwyddo hyrwyddo’r iaith i weision sifil y Llywodraeth.

Cafodd y Llywodraeth ei beirniadu gan Ddyfodol i’r Iaith am gwtogi’r arian sydd ar gael i Gymraeg i Oedolion, a’i llongyfarch am gynnig arian i gychwyn Canolfannau Cymraeg.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni fel mudiad yn credu bod angen hyrwyddo’r Gymraeg ar raddfa eang, a bod angen sefydlu corff a fydd yn gyfrifol am hyn ac yn gwarchod y Gymraeg.

Ychwanegodd, “Rydyn ni wedi anfon tystiolaeth i bwyllgor craffu’r Cynulliad ar y Bil Cynllunio ac yn gobeithio gweld y Gymraeg yn cael ei chydnabod mewn deddf gynllunio.”

“Bydd clywed sylwadau Meirion, sydd â phrofiad eang o hyrwyddo’r Gymraeg, ac sy’n gwybod yn fanwl am ymdrechion gwledydd eraill yn Ewrop, yn fodd i ystyried beth y mae angen ei flaenoriaethau yn y blynyddoedd nesaf.”

Caiff cynhadledd Dyfodol i’r Iaith ei chynnal fore Sadwrn, Tachwedd 15 yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth, am 11.30.

 

CYNHADLEDD

“A yw’r Llywodraeth wedi pasio’r prawf iaith? Asesiad ar ôl dwy flynedd a hanner o’r drefn newydd o gael gwleidyddion a gweision sifil yn  hyrwyddo’r Gymraeg”2 cylchlythyr Medi 2014 (3)

Anerchiad gan MEIRION PRYS JONES a thrafodaeth i ddilyn.

Dydd Sadwrn, 15fed Tachwedd yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth am 11.30yb
(yn dilyn ein Cyfarfod Cyffredinol). 

CROESO CYNNES I BAWB