Mae’r mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi condemnio polisi Lidl UK o wahardd staff rhag siarad ieithoedd heblaw am Saesneg gyda’i gilydd.
Mae Dyfodol wedi cymharu’r gwaharddiad ar y Gymraeg fel polisi tebyg i’r deddfau penyd yn erbyn y Cymry yn yr Oesoedd Canol.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:
“Rydym wedi ysgrifennu at y cwmni heddiw i’w hysbysu fod polisi o wahardd pobl yng Nghymru rhag siarad Cymraeg yn anghyfreithlon.
“Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Does dim modd i gwmni preifat wahardd iaith swyddogol gwlad.”
“Mae gwaharddiad ar y Gymraeg fel hyn yn atgoffa dyn o ddeddfau penyd yr Oesoedd Canol. Does dim modd ei gyfiawnhau mewn cymdeithas wâr.”
“Mae’r achos yma’n ei gwneud yn glir bod angen i’r Ddeddf Iaith a phwerau’r Comisiynydd Iaith gwmpasu’r sector preifat.”
Dechreuodd y ffrae gyda gwaharddiad Lidl UK ar staff o Wlad Pwyl rhag siarad Pwyleg gyda chwsmeriaid Pwyleg.
Dywedodd Heini Gruffudd:
“Carem hefyd fynegi ein cefnogaeth i Bwyliaid sy’n byw yng Nghymru. Credwn yn angerddol fod gan leiafrifoedd ethnig yr hawl i arfer eu hieithoedd ymhlith ei gilydd.”
Erbyn hyn mae Lidl wedi tynnu’r gwaharddiad yn ôl.
Diolch Heini.
Tybed oes modd cael grwpiau lleol i gydweithio er mwyn asesu faint o Gymraeg a ddefnyddir gan siopau a chwmniau yn eu hardaloedd cyn cefnogi’r rhai sydd yn fwyaf cefnogol i ni’r Cymry Cymraeg?
Byddai undod rhwng mudiadau megis Mentrau Iaith, MYW, Ffermwyr Ifanc, capeli ac eglwysi a chylchoedd cinio aybl. yn nifer eithaf sylweddol ac yn fodd dwyn pwysau i gael e.e:-
-staff sydd yn medru’r Gymraeg i wisgo’r bathodynnau priodol;
– tiliau talu gyda staff Cymraeg
– cerddoriaeth gefndirol Cymraeg.
Ond yn yr achos hwn “every lidl does NOT help”!