CROESAWU’R POSIBILRWYDD O DDWY SIANEL RADIO
Mae Dyfodol yr Iaith yn croesawu datganiad Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru, y gall hi fod yn bosibl cael dwy sianel radio Gymraeg.
Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Fe wnaethon ni gyflwyno tystiolaeth i’r BBC yn galw am ddwy sianel – Radio Pawb a Radio Pop. Y nod yw cael un sianel draddodiadol, ac un sianel i bobl ifanc.”
“Rydyn ni wrth ein bodd bod rhai o raglenni newydd Radio Cymru’n boblogaidd, ac mae Tomo’n amlwg wedi gwneud ei farc yn sydyn iawn a rhifau gwrando Radio Cymru’n codi.”
“Yr hyn sy’n anodd ar hyn o bryd yw bodloni pob math o gynulleidfa yr un pryd. Yn y Saesneg mae modd dewis o blith nifer fawr o sianeli, a bydd yn wych i wrandawyr Cymraeg gael siawns i ddewis y sianel sy’n apelio fwya iddyn nhw.”
“Mae’n dda deall y bydd datblygiadau technegol yn ei gwneud yn bosibl cael dwy sianel Gymraeg, naill ai o dan ofal y BBC neu o dan ofal darlledwyr annibynnol.”