Mae pum cam o bwys i’r iaith wedi’u cymryd eleni, yn ôl Dyfodol i’r Iaith. Bu Dyfodol i’r Iaith yn cynnal trafodaethau mewn sawl maes, ac mae hyn yn dechrau dwyn ffrwyth, yn ôl y Cadeirydd, Heini Gruffudd.
Y pum llwyddiant yw:
- Sefydlu Endid Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
- Cynlluniau i sefydlu pedair Canolfan Gymraeg mewn pedair tref yng Nghymru
- Posibilrwydd cael dwy sianel radio Cymraeg
- Cyhoeddi adnodd Cyngor Gofal Cymru ar ddefnyddio’r Gymraeg ym myd gwasanaethau gofal
- Polisi addysg Sir Gâr, yn rhan o bolisi iaith pellgyrhaeddol y sir.
Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni wedi cael gwrandawiad cadarnhaol gan wleidyddion a gan sawl pwyllgor a chorff yn ystod y flwyddyn, ac mae’n dda gweld bod nifer o’n hawgrymiadau wedi cael eu derbyn.”
“Mae’r cyfan o’r pum cam yma’n ymwneud ag ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lafar a chreu amodau teg i gael siaradwyr newydd.”
“Mae’n allweddol bod y rhai fydd yn gyfrifol am weithredu’r camau hyn yn gwneud hynny’n effeithiol a gydag argyhoeddiad, fel bod modelau da o weithredu’n cael eu sefydlu.”
“Rydyn ni yn ystod y mis nesaf yn canolbwyntio ar sicrhau bod lle i’r iaith yn y Bil Cynllunio sy’n cael ei ystyried gan y Llywodraeth.”