Wrth ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi siom dirfawr nad oes prin ddim cyfeiriad at y Gymraeg yn y ddogfen. Mae Dyfodol wedi cynnig sawl awgrym adeiladol am sut y gellir cynnwys y Gymraeg yn y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw. Ymhlith awgrymiadau Dyfodol mae:
- Cynnwys cymal ar wyneb y Bil yn sicrhau hawl plentyn / person ifanc i gael cefnogaeth yn y Gymraeg
- Cynnwys adran yn y Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn amlinellu ym mha iaith y dylid darparu cefnogaeth
- Cynnwys cymal yn y Bil yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a cholegau addysg bellach i gydweithio a rhannu gwybodaeth yn y Gymraeg pan fo galw am hynny
- Cynnwys gofynion gorfodol parthed y Gymraeg yn y Cod Ymarfer gan gynnwys:
- hawl y plant/pobl ifanc a’u teuluoedd i gael trafod y CDU yn y Gymraeg, ar unrhyw adeg yn y broses (llunio, adolygu ac ati)
- hawl i ddarpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg (0-25 oed) a sicrhau dilyniant ieithyddol
- hawl i wneud a gwrando apêl yn y Gymraeg (drwy brosesau lleol a gerbron y Tribiwnlys)
- darpariaethau ynghylch y Gymraeg mewn perthynas â chydweithio aml-asiantaeth
- darpariaethau ar gyfer cynllunio’r gweithlu i sicrhau cyflenwad digonol o arbenigwyr sy’n siarad Cymraeg
- eiriolaeth annibynnol yn y Gymraeg
Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd yn argymell y dylai’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol weithio gyda Llywodraeth Cymru i adnabod lle mae prinder staff cymwys i weithio ym maes ADY yn y Gymraeg a darparu cyrsiau hyfforddiant pwrpasol yn y meysydd hyn. Mae hefyd angen i Estyn gael y pwer i arolygu sut mae awdurdodau lleol yn darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag ADY yn y Gymraeg ac adrodd ar unrhyw fethiannau i ddarparu cefnogaeth. Ymateb Papur Gwyn Anghenion Dysgu Ychwanegol