Mae angen treblu’r arian sy’n cael ei roi i Gymraeg i Oedolion. Dyna ddywed Dyfodol i’r Iaith yn sgil y cyhoeddiad y bydd cyllid Cymraeg i Oedolion yn cael ei dorri gan 7%. Mae Dyfodol i’r Iaith yn dra siomedig bod y toriadau i Gymraeg i Oedolion – sef £2.3 miliwn – yn fwy na’r arian ychwanegol sy’n cael ei gynnig i’r Mentrau Iaith ac i brosiect ar yr economi yn Nyffryn Teifi. Mae angen i raglen Cymraeg i Oedolion fod yn rhan ganolog o adfywio’r iaith yn y gymuned yn ôl Dyfodol i’r Iaith. Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’n amlwg nad yw’r Llywodraeth wedi ystyried rôl hollbwysig Cymraeg i Oedolion wrth dargedu rhieni newydd ac wrth hyfforddi gweithlu Cymraeg. I wneud gwahaniaeth mae angen gwario swm tebyg i Wlad y Basgiaid, sef tua £40 miliwn y flwyddyn.” Ychwanegodd Heini Gruffudd, “Dyw’r rhan fwyaf o’n cyrsiau ni ddim yn ddigon dwys, a does dim rhaglen eang gyda ni i ryddhau pobl o’r gwaith i ddysgu’r iaith.” “Yn ardaloedd llai Cymraeg Cymru mae angen rhaglen sy’n targedu rhieni er mwyn newid iaith y cartref, ac i wneud hynny bydd angen i rieni gael cyfnod i ffwrdd o’r gwaith. Mae angen mawr hefyd am sefydlu cadwyn o Ganolfannau Cymraeg i roi bywyd cymdeithasol newydd i’r iaith.” “Yn yr ardaloedd Cymraeg mae gan Gymraeg i Oedolion rôl allweddol wrth ddysgu’r iaith i fewnddyfodiaid.” “Mewn cyfnod o wanhad cymunedau Cymraeg, dyma’r union adeg i weithredu’n fentrus i ehangu darpariaeth Cymraeg i Oedolion.” Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu sefydlu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion, ac yn galw am gyllid o £30 miliwn i’r Ganolfan yn lle’r £10 miliwn presennol.