Y Gymraeg a Chwaraeon

GALW AM YMGYRCH I GYSYLLTU CHWARAEON A’R GYMRAEG   Wrth longyfarch Tîm Cymru ar eu campau yng Ngemau’r Gymanwlad, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am ymgyrch i hyrwyddo’r Gymraeg ym myd chwaraeon. Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “mae’n wych clywed rhai o fabolgampwyr Cymru’n siarad Cymraeg ar y radio a’r teledu, gan ddangos fod y Gymraeg yn iaith fyw yn y byd chwaraeon.” “Mae’r Urdd trwy drefnu Chwaraeon Cymru wedi rhoi arweiniad cadarn wrth ddod â’r iaith i ganol byd chwaraeon. “Yr angen yn awr yw gwneud yn siŵr bod chwaraeon, y mabolgampau a gweithgareddau nofio a hamdden ar gael trwy’r Gymraeg ar lawr gwlad ym mhob sir yng Nghymru. “Byddai’n dda i’r Safonau Iaith a gaiff eu trafod gan y Llywodraeth ym mis Tachwedd osod targedau i Awdurdodau Lleol o ran cyflwyno gweithgareddau Cymraeg i bobl ifanc. “Mae angen hefyd am ymgyrch hyrwyddo’r iaith ymysg clybiau chwaraeon.  Mae rhai esiamplau gwych, fel clwb rygbi Crymych, sy’n cynnal 11 o dimau rygbi trwy gyfrwng y Gymraeg. “Mae rhai sefydliadau cenedlaethol, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cynnig gwasanaeth dwyieithog o ran gwefan a chyhoeddiadau, ond mae Undeb Rygbi Cymru’n cynnig delwedd Saesneg iawn. “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y Comisiynydd Iaith a’r Prif Weinidog yn cydweithio i greu rhaglen gynhwysfawr i hyrwyddo’r Gymraeg ym myd chwaraeon dros y blynyddoedd nesaf.”

Papur Gwyn Anghenion Dysgu Ychwanegol

Wrth ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi siom dirfawr nad oes prin ddim cyfeiriad at y Gymraeg yn y ddogfen. Mae Dyfodol wedi cynnig sawl awgrym adeiladol am sut y gellir cynnwys y Gymraeg yn y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw. Ymhlith awgrymiadau Dyfodol mae:

  • Cynnwys cymal ar wyneb y Bil yn sicrhau hawl plentyn / person ifanc i gael cefnogaeth yn y Gymraeg
  • Cynnwys adran yn y Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn amlinellu ym mha iaith y dylid darparu cefnogaeth
  • Cynnwys cymal yn y Bil yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a cholegau addysg bellach i gydweithio a rhannu gwybodaeth yn y Gymraeg pan fo galw am hynny
  •  Cynnwys gofynion gorfodol parthed y Gymraeg yn y Cod Ymarfer gan gynnwys:
    • hawl y plant/pobl ifanc a’u teuluoedd i gael trafod y CDU yn y Gymraeg, ar unrhyw adeg yn y broses (llunio, adolygu ac ati)
    • hawl i ddarpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg (0-25 oed) a sicrhau dilyniant ieithyddol
    • hawl i wneud a gwrando apêl yn y Gymraeg (drwy brosesau lleol a gerbron y Tribiwnlys)
    • darpariaethau ynghylch y Gymraeg mewn perthynas â chydweithio aml-asiantaeth
    • darpariaethau ar gyfer cynllunio’r gweithlu i sicrhau cyflenwad digonol o arbenigwyr sy’n siarad Cymraeg
    • eiriolaeth annibynnol yn y Gymraeg

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd yn argymell y dylai’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol weithio gyda Llywodraeth Cymru i adnabod lle mae prinder staff cymwys i weithio ym maes ADY yn y Gymraeg a darparu cyrsiau hyfforddiant pwrpasol yn y meysydd hyn. Mae hefyd angen i Estyn gael y pwer i arolygu sut mae awdurdodau lleol yn darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag ADY yn y Gymraeg ac adrodd ar unrhyw fethiannau i ddarparu cefnogaeth. Ymateb Papur Gwyn Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dyfodol yn yr Eisteddfod

Unwaith eto eleni fe fydd gan Dyfodol i’r Iaith stondin ar faes y Brifwyl yn Llanelli gyda rhaglen lawn o weithgareddau i bawb o bob oedran! Bydd gyda ni stondin ddwbl felly digon o le i alw draw am sgwrs a phaned. Bydd yna weithgareddau i’r plant bob dydd, gan gynnwys creu plethbethau – looms bands – coch, gwyn a gwyrdd. Bydd Ynyr Llwyd hefyd yn galw draw i ganu ambell gân. Hefyd bydd sgyrsiau anffurfiol am bynciau llosg y dydd gyda nifer o arbenigwyr yn eu meysydd.

Dyma’r rhaglen yn llawn:

PABELL Y CYMDEITHASAU 2

Dydd Iau, Awst 7fed                      11:30 – 12:30

Cynllunio Iaith yn Sirol: Sir Gâr a Chymru

Siaradwr: Cefin Campbell

AR Y STONDIN (313-314)

 Dydd Llun, Awst 4ydd      11:30 – 12:00

Sgwrs a phaned  – Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gyda

Dr Einir Young, Prifysgol Bangor

 Dydd Mercher, Awst 6ed  11:30 – 12:00

Sgwrs a phaned – y Gymraeg mewn Busnes – profiad un cwmni

Myrddin ap Dafydd, Cwrw Llŷn

 Dydd Gwener, Awst 8fed 14:00 – 14:30

Sgwrs a phaned – Papur Gwyn ar Anghenion Dysgu Ychwanegol gyda

Dr Elin Walker Jones ac Elin Wyn

Dydd Llun Awst 4ydd am 14:00 a Dydd Iau Awst 7fed am 15:00

Ambell gân gan Ynyr Llwyd

Bob dydd ar y stondin:

Cyfle i greu plethbethau (loom bands); cylch allweddi;

Bawd Lan i’r Dyfodol.