Mae’n argyfwng ar y Gymraeg fel iaith hyfyw, yn yr ychydig gymunedau a threfi lle y mae hi’n dal i fod yn iaith y mwyafrif. Mae cefnogaeth eang yng Nghymru i’r syniad o gynnal yr iaith Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae nifer fawr o Gymry nad ydynt yn ei siarad yn rhyfedd o falch o’r ffaith fod yna lefydd yn ein gwlad lle “na chlywch chi ddim byd ond y Gymraeg”. Hynny yw mae bodolaeth y cymunedau ieithyddol hyn yn fater dirfodol i bobl Cymru, y tu hwnt i’r rhai sy’n siarad yr iaith.
Yn yr erthygl hon, rwy’n gobeithio agor cil y drws ar sut y gellir defnyddio cyfraith cynllunio er mwyn diogelu’r iaith yn y cymunedau hynny, o leiaf drwy reoli datblygiadau sy’n arwain at gynyddu poblogaeth y cyfryw gymunedau y tu hwnt i’r angen lleol. Ar hyn o bryd, mae cyfraith cynllunio yn milwrio yn erbyn hynny.
Heb gyfraith cynllunio, byddai rhyddid llwyr gan berchnogion a datblygwyr eiddo i wneud beth bynnag a fynnent ar eu tir, o godi adeiladau i brosesu cemegolion gwenwynig. Diben cyfraith cynllunio yw gosod rhyddid tirfeddianwyr a datblygwyr yn y glorian a’i bwyso yn erbyn ystyriaethau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys buddiannau cymdogion, yr amgylchedd neu’r gymuned, yn ogystal â materion sy’n cael eu hystyried i fod yn rhai y dylid eu diogelu o ran egwyddor e.e. henebion neu ystlumod. Felly er enghraifft, yn achos tyrbeini gwynt, rhoddir yn y glorian ar y naill law hawl y tirfeddiannwr a’r angen am ynni glân, ac ar y llall ymyrraeth â byd natur a harddwch naturiol. Parhau i ddarllen