Ardaloedd o Sensitifrwydd Ieithyddol

DYFODOL YN GALW AM ARDALOEDD O SENSITIFRWYDD IEITHYDDOL

Galwodd mudiad iaith Dyfodol i’r Iaith am ddynodi pob ardal yng Nghymru yn ôl ei sensitifrwydd ieithyddol. Byddai dynodiad o’r fath yn sylfaen i drefn newydd wrth ystyried y Gymraeg ym maes cynllunio.

Mewn dogfen a gyhoeddwyd heddiw mae Dyfodol yn galw am roi cyfrifoldeb statudol ar gorff newydd i ddynodi pob un ward etholaethol yng Nghymru yn ôl ei sensitifrwydd ieithyddol.  Byddai’r dynodiad yn amrywio yn ôl nifer y siaradwyr Cymraeg a ffactorau eraill a byddai rhaid i’r corff adolygu’r dynodiad bob pum mlynedd. Parhau i ddarllen

Her Calan Mai i Radio Cymru

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi gosod her i Radio Cymru ar Galan Mai i wella’r gwasanaeth Cymraeg.

Mewn llythyr at Bennaeth Rhaglenni Cymraeg a Golygydd Radio Cymru, Sian Gwynedd a Betsan Powys, mae’r mudiad wedi cyflwyno cyfres o gwestiynau am y gwasanaeth presennol a sut y gellir darparu ar gyfer y dyfodol.

Derbyniodd y mudiad nifer o gwynion a phryderon gan ei haelodau am safon iaith y cyflwynwyr a’r gormodedd o ganeuon Saesneg sydd ar Radio Cymru. Mae Dyfodol, felly, yn holi pryd y bydd ail wasanaeth Cymraeg ar unrhyw gyfrwng i geisio goresgyn y problemau presennol. Parhau i ddarllen