Mae Dyfodol i’r Iaith wedi gosod her i Radio Cymru ar Galan Mai i wella’r gwasanaeth Cymraeg.
Mewn llythyr at Bennaeth Rhaglenni Cymraeg a Golygydd Radio Cymru, Sian Gwynedd a Betsan Powys, mae’r mudiad wedi cyflwyno cyfres o gwestiynau am y gwasanaeth presennol a sut y gellir darparu ar gyfer y dyfodol.
Derbyniodd y mudiad nifer o gwynion a phryderon gan ei haelodau am safon iaith y cyflwynwyr a’r gormodedd o ganeuon Saesneg sydd ar Radio Cymru. Mae Dyfodol, felly, yn holi pryd y bydd ail wasanaeth Cymraeg ar unrhyw gyfrwng i geisio goresgyn y problemau presennol.
Heb enwi unrhyw gyflwynydd unigol, mae Dyfodol i’r Iaith yn holi fel hyn:
“Pa gyngor a chyfarwyddyd sy’n cael ei roi i gyflwynwyr rhaglenni am y defnydd o Gymraeg llafar naturiol mewn unrhyw dafodiaith yn hytrach na bratiaith a thermau Saesneg? A ydynt yn derbyn hyfforddiant ynglŷn a hynny, a ydynt yn cael eu goruchwylio’n feunyddiol, ac a ydynt yn derbyn cyngor ac arweiniad pan fônt yn tramgwyddo?”
Roedd llefarydd darlledu’r mudiad, Eifion Lloyd Jones, yn cydnabod eu bod yn credu fod dirywiad wedi bod yn ansawdd y gwasanaeth ers i gyflwynwyr newydd gymryd yr awennau eleni. Ond penaethiaid Radio Cymru a ddylai gymryd y cyfrifoldeb am hynny, yn ôl Dyfodol, sy’n honni mai eu dyletswydd nhw yw gwarchod safon cynyrchiadau’r orsaf.
Gan fod cerddorion Cymraeg yn bygwth atal eu gwasanaeth i Radio Cymru unwaith eto oherwydd fod cynifer o ganeuon Saesneg yn cael eu darlledu, mae Eifion Lloyd Jones yn gofyn fel hyn:
“Faint o ganeuon Saesneg sy’n cael eu caniatàu mewn gwahanol raglenni, ac a yw’r canfyddiad fod cynnydd wedi bod yn nifer y caneuon Saesneg yn ddiweddar yn gywir? Gyda cherddorion Cymraeg yn atal cydweithredu gyda Radio Cymru unwaith eto, a fydd hynny’n eich ysgogi i ailystyried y polisi niweidiol presennol i gerddoriaeth Gymraeg?”
Er mwyn ceisio gwella’r sefyllfa, mae Dyfodol yn atgoffa’r BBC o’u galwad i sefydlu dau wasanaeth, a enwyd ganddyn nhw’n Radio Pop a Radio Pawb:
“Gan fod cymaint o anfodlonrwydd gyda’r gwasanaeth presennol, pryd y byddwch yn datblygu gwasanaeth Cymraeg ychwanegol mewn unrhyw gyfrwng? A fydd cychwyn gwasanaeth ychwanegol o’r fath, mewn pa gyfrwng bynnag, yn golygu na fydd rhaid gwrando ar iaith ddiffygiol a chaneuon Saesneg ar y gwasanaeth traddodiadol Cymraeg?”
Cred Dyfodol y byddai gwasanaeth ychwanegol yn gyfle i adfywio’r Gymraeg ledled y wlad. Er mwyn ehangu cenhadaeth Radio Cymru ar gyfer y dysgwyr a phobl ifanc yn arbennig, mae Dyfodol i’r Iaith am weld rhannu’r gwasanaeth yn Radio Pop a Radio Pawb. Byddai’r naill yn targedu’r ifanc a’r dysgwyr gydag arlwy o gerddoriaeth ac iaith lafar gyfoes, tra bo’r llall yn wasanaeth mwy cynhwysfawr ac amrywiol o ran newyddion, drama ac adloniant mewn iaith lafar naturiol a safonol, gyda cherddoriaeth amrywiol Gymraeg yn unig.
Yn ôl Eifion Lloyd Jones, “Yn anffodus, nid yw’r newidiadau diweddar wedi llwyddo i wella gwasanaeth Radio Cymru o gwbl, ac mae angen adolygu’r sefyllfa ar frys cyn i’r orsaf Gymraeg golli ei cherddorion ifanc a’i chynulleidfa draddodiadol”.
Trist iawn bod “Dyfodol” wedi cael ei herwgipio gan hen bobol chwerw. Ydy Richard Wyn Jones ac Emyr Lewis yn cytuno a’r nonsens yma? Go brin.
Mae angen cynnal safonnau da ymhob iaith. Mae’r cyfryngau Saesneg yn ceisio defnyddio iaith cywir o safon felly mae angen yr un parch i wrandawyr Cymraeg yng Nghymru hefyd. Mae ‘na ormod o fratiaith gyda nifer cynyddol o eiriau Saesneg di-angen yn cael ei ddefnyddio yn gyson wrth cyflwyno a siarad yn Gymraeg. Mae hyn wedi ymygu yn ystod y 18 mis diwethaf. Ble mae’r safonnau da a chynhalwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif?