DYFODOL YN GALW AM ARDALOEDD O SENSITIFRWYDD IEITHYDDOL
Galwodd mudiad iaith Dyfodol i’r Iaith am ddynodi pob ardal yng Nghymru yn ôl ei sensitifrwydd ieithyddol. Byddai dynodiad o’r fath yn sylfaen i drefn newydd wrth ystyried y Gymraeg ym maes cynllunio.
Mewn dogfen a gyhoeddwyd heddiw mae Dyfodol yn galw am roi cyfrifoldeb statudol ar gorff newydd i ddynodi pob un ward etholaethol yng Nghymru yn ôl ei sensitifrwydd ieithyddol. Byddai’r dynodiad yn amrywio yn ôl nifer y siaradwyr Cymraeg a ffactorau eraill a byddai rhaid i’r corff adolygu’r dynodiad bob pum mlynedd. Parhau i ddarllen