Llythyr i’r Pwyllgor Deseibau

Dyma lythyr anfonwyd gan Gadeirydd Dyfodol i’r Iaith i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru parthed ein deiseb yn cefnogi’r Mentrau Iaith

Annwyl aelodau’r Pwyllgor Deisebau,

Rydym yn falch o wybod y byddwch yn ystyried y ddeiseb Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith yn eich cyfarfod nesaf ar 29 Ebrill 2014, ac mawr obeithiwn y byddwch yn gallu penderfynu gweithredu ymhellach arni yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol sy’n gweithredu er budd yr iaith Gymraeg yn lleol ac maent yn darparu ystod eang o weithgareddau a phrosiectau cyfrwng Cymraeg i bobl o bob oedran a chefndir yng nghymunedau Cymru.  Mae adroddiad Prifysgol Caerdydd, a gomisiynwyd gan Llywodraeth Cymru, yn datgan y dylai gwaith y Mentrau barhau a datblygu.  Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad yw’r Mentrau yn derbyn cyllid craidd digonol i weithredu i’w llawn botensial.  Gallwch ddarllen yr adroddiad yma http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/130130-adroddiad-y-mentrau-cy.pdf

Penderfynodd Dyfodol i’r Iaith gyflwyno’r ddeiseb i gefnogi’r Mentrau yn dilyn yr arolwg o’u gwaith er mwyn galw ar y Cynulliad i ofyn i Llywodraeth Cymru gryfhau ei chefnogaeth i’r Mentrau, ac ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol yn dilyn yr arolwg hwnnw.

Roeddem yn falch iawn felly i glywed y Prif Weinidog yn datgan ei gefnogaeth i’r Mentrau Iaith mewn sawl datganiad yn ddiweddar, ac ar lawr y Cynulliad, yn dweud ei fod yn ystyried y Mentrau yn “offerynnau pwerus a gwerthfawr”, a’i fod am “sicrhau bod eu gwaith yn parhau yn y dyfodol.”  Rydym yn credu nawr ei bod yn amserol bod y Prif Weinidog a’r Llywodraeth yn gweithredu er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i ddyfodol y Mentrau a’r iaith Gymraeg trwy fuddsoddi ynddynt.

Fe fyddwn ni’n falch iawn i drafod ymhellach gyda chi, ac fe fyddwn yn hapus iawn i ddod i un o’ch cyfarfodydd yn y dyfodol agos er mwyn trafod sut medrwch chi fel Pwyllgor ein cynorthwyo i gefnogi’r Mentrau Iaith er budd y Gymraeg ar draws Cymru.

Pob dymuniad da,

Heini Gruffudd

 

Safonau Iaith

ANGEN I’R SAFONAU IAITH WNEUD Y GYMRAEG YN IAITH GWAITH

Mae angen gwneud y Gymraeg yn iaith gwaith bob dydd mewn sefydliadau cyhoeddus – dyna ddylai’r Safonau Iaith sicrhau, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.

Mewn ymateb i Safonau Iaith y Llywodraeth, mae Dyfodol i’r Iaith am weld

  • Y Gymraeg yn iaith gwaith bob dydd mewn sefydliadau cyhoeddus
  • Darpriaeth helaeth o weithgareddau Cymraeg i bobl ifanc
  • Camau pendant i hybu’r Gymraeg yn y gymuned

Mae Dyfodol i’r iaith yn croesawu sawl adran o’r Safonau Iaith, ond yn hawlio mai ychydig iawn o’r Safonau fydd yn help i wneud y Gymraeg yn iaith arferol yn y gweithle, ac i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.

Meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae llawer o’r safonau’n ymwneud â ffurflenni a dogfennau a hawl unigolion i gael gwasanaeth Cymraeg.  Does dim o’i le yn hynny, ond mae pethau llawer pwysicach y mae angen rhoi sylw iddyn nhw.

“Dim ond Gwynedd sy’n defnyddio’r Gymraeg yn fewnol.  Mae angen i’r Safonau osod targedau i gynghorau eraill Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn iaith gwaith bob dydd.

“Er bod un o’r safonau’n nodi bod angen i sefydliadau cyhoeddus ddarparu cyrsiau i bobl ifanc ac oedolion, mae angen gwneud yn siŵr bod pethau fel gwersi nofio, clybiau pobl ifanc ac ati ar gael mor helaeth yn y Gymraeg ag yn y Saesneg.”

“Mae angen dal y cyfle yma i hybu’r Gymraeg yn iaith y cartref, y gymuned a’r gweithle. Bydd methu â gwneud hyn yn rhywbeth y byddwn yn edifar iawn amdano yn y dyfodol.”

Cefnogi Cyngor Sir Gar

CYNLLUN IAITH SIR GAR YN UN I’W EFELYCHU YN SIROEDD ERAILL CYMRU

Mae’r Cynllun Iaith gafodd ei dderbyn gan Gyngor llawn Sir Gâr yn un ddylai gael ei efelychu gan siroedd eraill Cymru.  Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith mewn ymateb wrth i Sir Gâr dderbyn y cynllun iaith yn ddiwrthwynebiad.

Meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’n gam hanesyddol bod Sir yng Nghymru’n derbyn Cynllun Iaith sy’n cwmpasu tai, yr economi, addysg a’r iaith mewn gwaith ac yn y gymdeithas.”

Ychwanegodd, “Mae gan y Cynllun Iaith a gafodd ei dderbyn gan Sir Gâr y gallu i  weddnewid sefyllfa’r Gymraeg yn y sir. Mae’n mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r agweddau sydd o fewn gallu Cyngor Sir.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr iaith yn cael ei defnyddio fwyfwy gan weithwyr yn y Sir, ac at weld y Sir yn cynnig gweithgareddau Cymraeg i bobl ifanc.”

“Cyflwynodd Dyfodol i’r Iaith sylwadau i’r gweithgor oedd yn paratoi’r Cynllun Iaith, ac mae’n dda gweld bod y Cynllun Iaith wedi ymateb mor gadarnhaol.”

“Mae angen i Lywodraeth Cymru’n awr dderbyn y Cynllun Iaith hwn fel patrwm gweithredu ar gyfer siroedd eraill Cymru.”

“Yn y pen draw, defnyddio’r Gymraeg yn y cartref, yn y gymdeithas ac yn y gwaith fydd yn ei diogelu, yn anad dim arall.”