ANGEN I’R SAFONAU IAITH WNEUD Y GYMRAEG YN IAITH GWAITH
Mae angen gwneud y Gymraeg yn iaith gwaith bob dydd mewn sefydliadau cyhoeddus – dyna ddylai’r Safonau Iaith sicrhau, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.
Mewn ymateb i Safonau Iaith y Llywodraeth, mae Dyfodol i’r Iaith am weld
- Y Gymraeg yn iaith gwaith bob dydd mewn sefydliadau cyhoeddus
- Darpriaeth helaeth o weithgareddau Cymraeg i bobl ifanc
- Camau pendant i hybu’r Gymraeg yn y gymuned
Mae Dyfodol i’r iaith yn croesawu sawl adran o’r Safonau Iaith, ond yn hawlio mai ychydig iawn o’r Safonau fydd yn help i wneud y Gymraeg yn iaith arferol yn y gweithle, ac i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.
Meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae llawer o’r safonau’n ymwneud â ffurflenni a dogfennau a hawl unigolion i gael gwasanaeth Cymraeg. Does dim o’i le yn hynny, ond mae pethau llawer pwysicach y mae angen rhoi sylw iddyn nhw.
“Dim ond Gwynedd sy’n defnyddio’r Gymraeg yn fewnol. Mae angen i’r Safonau osod targedau i gynghorau eraill Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn iaith gwaith bob dydd.
“Er bod un o’r safonau’n nodi bod angen i sefydliadau cyhoeddus ddarparu cyrsiau i bobl ifanc ac oedolion, mae angen gwneud yn siŵr bod pethau fel gwersi nofio, clybiau pobl ifanc ac ati ar gael mor helaeth yn y Gymraeg ag yn y Saesneg.”
“Mae angen dal y cyfle yma i hybu’r Gymraeg yn iaith y cartref, y gymuned a’r gweithle. Bydd methu â gwneud hyn yn rhywbeth y byddwn yn edifar iawn amdano yn y dyfodol.”