Fe allai gweithredu argymellion Comisiwn Williams ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fod yn gyfle i wella darpariaeth yn y Gymraeg. Dyna farn mudiad Dyfodol i’r Iaith a gyflwynodd dystiolaeth i’r Comisiwn yn ystod yn cyfnod ymgynghorol y llynedd.
Yn y dystiolaeth dywedodd Dyfodol i’r Iaith bod angen rhoi ystyriaeth flaenllaw i natur ieithyddol Cymru mewn unrhyw drafodaeth am ad-drefnu llywodraeth leol. Yn ôl y sôn fe fydd Comisiwn Williams yn derbyn yr egwyddor hon o barchu ffiniau ieithyddol yn ei argymhellion ar uno cynghorau sir.
Dywedodd cadeirydd Dyfodol, Heini Gruffudd, “Mae cyfle gwych yma i gynghorau Cymru ddod ynghyd a chynnig gwell darpariaeth yn y Gymraeg i’w dinasyddion. Drwy rannu adnoddau a staff ar draws y ffiniau presennol mae yna botensial i ddarparu gwell gwasanaethau, er enghraifft ym maes gofal cymdeithasol ac addysg anghenion arbennig.”
Ychwanegodd Heini Gruffudd, “Rydym hefyd yn mawr obeithio y bydd uno cynghorau sydd a natur ieithyddol debyg yn arwain at fwy o weinyddu mewnol yn y Gymraeg. Mae angen i’r Gymraeg fod yn brif gyfrwng gweinyddu yn holl awdurdodau lleol gorllewin Cymru, gan ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd.”
Mae cyflwyniad Dyfodol i’r Iaith i Gomisiwn Williams ar gael yma: Cyflwyniad Comisiwn Gwasanaethau Cyhoeddus