Cymraeg i Oedolion

ANGEN DYBLU GWARIANT I WAITH CYMRAEG I OEDOLION

Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhoi croeso i’r drefn newydd i waith Cymraeg i Oedolion. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd trefn ganolog yn cychwyn ym mis Medi 2015.

“Roedd cael trefn ganolog yn un o argymhellion Dyfodol i’r Iaith i Grŵp Adolygu Cymraeg i Oedolion,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith. “Wrth gael Sefydliad Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion, bydd modd i’r maes gael ei arwain gan arbenigwyr.”

Ond mae Dyfodol i’r Iaith yn poeni na fydd gan y Sefydliad ddigon o arian i ddatblygu’r maes fel y dylai.

“Mae’n drueni mawr, wrth ad-drefnu, bod y Llywodraeth yn torri’r arian fydd ar gael i Gymraeg i Oedolion gan 8%.  Mae’r gwariant ar y maes yn awr ryw draean o’r hyn ydyw yng Ngwlad y Basgiaid, sydd mewn sefyllfa debyg i ni. Os ydyn ni o ddifri am roi bywyd newydd i’r Gymraeg ar draws Cymru mae angen i ni ddyblu’r gwariant, nid ei gwtogi,” meddai Heini Gruffudd.

“Dim ond trwy wario digonol y bydd modd i Gymraeg gael ei dysgu i oedolion yn drylwyr, gyda digon o oriau dysgu, ac mewn digon o fannau lleol.”

“Rydyn ni’n croesawu’r pwyslais ar y Gymraeg mewn teuluoedd, ond mae angen cael trefn addas i ddatblygu byddin o athrawon yn ein hysgolion, a llu o weithwyr sy’n delio â’r cyhoedd.

Ym mis Hydref 2012 cyflwynodd Dyfodol i’r iaith naw o argymhellion, gan gynnwys dyblu’r gwariant ar Gymraeg i Oedolion.

Roedd yr argymhellion eraill yn cynnwys:

  • Cynnig rhaglenni dysgu hyd at 1200 o oriau
  • Sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg
  • Rhaglen rhyddhau dysgwyr o’u gwaith

 

Cyfarfod Cyffredinol – Cynllunio

Rhaid i’r iaith Gymraeg fod yn gwbl ganolog ym maes cynllunio – dyna oedd y neges glir ddaeth o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol mudiad Dyfodol i’r Iaith yn Aberystwyth ar y 23ain o Dachwedd.

Galwodd Dyfodol am gryfhau’r TAN 20 newydd er mwyn cwmpasu datblygiadau unigol yn ogystal â chynlluniau datblygu unedol yr awdurdodau lleol. “Mae hi hefyd yn amlwg bod angen i arolygwyr cynllunio gael hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith er mwyn deall cyd-destun a phwysigrwydd y Gymraeg yn ngwead cymdeithasol cymunedau Cymru”, yn ôl Llywydd Dyfodol, Bethan Jones Parry. “Roedd yn syndod llwyr i mi glywed na chafodd yr un apêl cynllunio yn Sir Gar ei wrthod ar sail ieithyddol”, meddai Ms Jones Parry, “Mae hyn yn profi’n glir nad yw arolygwyr cynllunio yn deall arwyddocâd yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau.” Parhau i ddarllen