HONNI BOD Y PRIF WEINIDOG YN ANWYBYDDU’R GYNHADLEDD FAWR
Mae Dyfodol i’r Iaith yn honni bod y Prif Weinidog yn anwybyddu prif gasgliadau’r Gynhadledd Fawr ar yr iaith, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf eleni.
“Y brif her i’r Gymraeg yn ôl y Gynhadledd yw symud poblogaeth, a bod angen polisïau economaidd, polisïau tai a chynllunio, polisïau addysg a pholisïau datblygu cymunedol i ymateb i’r her,” medd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
Mae Dyfodol i’r Iaith yn gofidio nad yw datganiad y Prif Weinidog ar 12fed Tachwedd yn gwneud dim i ymateb i’r brif her hon.
Mae Dyfodol yr Iaith yn honni ymhellach bod datganiad y Prif Weinidog yn cynnwys ailadrodd hen bolisïau’r Llywodraeth sydd wedi’u cyhoeddi’n barod, cyn y Gynhadledd Fawr.
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu ato i gael eglurhad ar y datganiad. Llythyr i’r Prif Weinidog Parhau i ddarllen