Cyfarfod a’r Prif Weinidog

Cafodd Dyfodol gyfarfod buddiol iawn gyda’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Llun Awst y 5ed.

Gofynnodd Dyfodol i’r Prif Weinidog am gynnwys y Gymraeg ar glawr y Bil Cynllunio arfaethedig. Bu Carwyn Jones yn sgwrsio gyda Llywydd y mudiad, Bethan Jones Parry; y Cadeirydd, Heini Gruffudd a’r Ysgrifennydd, Simon Brooks.

Cyflwynodd y mudiad ddogfen i Carwyn Jones am y berthynas rhwng  cynaliadwyedd y Gymraeg a chynllunio.

Cynllunio a’r Gymraeg  

Mae cynaliadwyedd y Gymraeg yn rhan annatod o faes cynllunio. Oherwydd hyn mae angen datblygu fframwaith cadarn fydd yn gallu asesu effaith datblygiadau cynllunio ar y Gymraeg. Mae yna lawer o enghreifftiau o ddatblygiadau sydd wedi arwain at wanhau’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol. Ac eto, ceir esiamplau o gynllunio sydd wedi cryfhau sefyllfa’r Gymraeg.

Mesur Cynllunio

  • Dylai cynaliadwyedd y Gymraeg fod yn greiddiol i’r Mesur Cynllunio arfaethedig.
  • Mae angen corff penodol i ddatblygu cyd-destun i’r Gymraeg a chynllunio:

naill ai:

corff hollol newydd

neu:

trosglwyddo’r cyfrifoldeb i gorff statudol fel Comisiynydd y Gymraeg. Y corff yma fyddai’n asesu yn annibynnol ar ran Awdurdodau lleol, ac yn penderfynu a yw datblygiadau yn niweidiol neu yn llesol i’r Gymraeg.

  • Byddai’n bosib datblygu hyn drwy Safonau Polisi Mesur y Gymraeg 2011, neu ei ystyried yng nghyd-destun y Mesur Cynllunio arfaethedig i Gymru.

Arolygiaeth Gynllunio a rhagamcanion datblygu tai

  • Mae’r rhagamcanion codi tai a orfodir ar Gynghorau Sir yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLL) yn gwbl anghymwys. Maent yn llawer rhy uchel, ac nid oes sail wyddonol iddynt. Maent yn adlewyrchu patrymau mudo yn y gorffennol ar adeg o dwf economaidd eithriadol, a dydy hyn ddim yn addas o gwbl heddiw.
  • Mae angen adolygu’r rhagamcanion ar gyfer niferoedd y tai fydd yn cael eu codi, a seilio’r rhagamcanion ar anghenion lleol.
  • Dylai fod gan Gymru ei Harolygiaeth Gynllunio ei hun.

TAN 20

  • Dylai fod iddo rym deddf trwy’r Mesur Cynllunio;
  • Dylai gyflwyno methodoleg safonol i fesur effaith cynlluniau ar y Gymraeg;
  • Dylai safleoedd sy’n cael eu nodi fel rhai y gellid eu cynnwys yn y Cynlluniau Datblygu Lleol fod â datganiad o effeithiau posib ar y Gymraeg ynghlwm wrthynt;
  • Dylid gwrthod hawl cynllunio os yw’r effaith ar y Gymraeg yn negyddol, h.y. yn arwain at ganran lai o siaradwyr Cymraeg, neu lai o ddefnydd o’r Gymraeg;
  • Dylai pob Cynllun Datblygu Lleol gynnwys datganiad yn disgrifio sut mae’r awdurdod cynllunio lleol wedi ystyried anghenion a buddiannau’r Gymraeg;
  • Dylai’r Awdurdod Lleol gynllunio er mwyn cynyddu’r % o siaradwyr Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg yn ystod oes unrhyw CDLl;
  • Dylai Awdurdod Lleol allu gorfodi datblygiadau i ddefnyddio enwau Cymraeg a busnesau newydd i ddefnyddio arwyddion Cymraeg/dwyieithog.
  • Dylid datgan yn union beth y gall awdurdod cynllunio ei wneud yng nghyd-destun y Gymraeg a beth na all ei wneud.
  • Dylai byw’n lleol gael ei sgorio’n uchel yn y system pwyntiau ar gyfer gwneud cais am dai cymdeithasol.
  • Dylai awdurdodau cynllunio lleol fonitro effaith datblygiadau ar yr iaith Gymraeg ar y cyd â chyrff arbenigol megis Mentrau Iaith lleol a Chomisiynydd y Gymraeg.
  • Dylid arolygu effeithlonrwydd TAN 20 yn flynyddol.

“Roedd y sgwrs gyda Carwyn Jones yn un adeiladol dros ben ac fel mudiad rydym yn edrych ymlaen i gael cyfarfod pellach gyda’r Prif Weinidog yn yr hydref i drafod blaenoriaethau o ran hyrwyddo a chynnal y Gymraeg yn ein cymunedau,” meddai Llywydd Dyfodol, Bethan Jones Parry.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *