Mae sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg yn bwysicach na llwyddiant unrhyw fudiad. Mae’n ymwneud â hunaniaeth y bobl hynny sy’n perthyn neu sy’n teimlo eu bod yn perthyn i’r cilcyn hwn o ddaear, a thrwy hynny yn rhan o gynhysgaeth y ddynoliaeth oll. Mae hi wrth reswm yn dreftadaeth i’r rheiny ohonom sy’n hanu o linach ddi-dor o siaradwyr Cymraeg. Mae hynny yn dipyn o ryfeddod. Mwy fyth o ryfeddod fodd bynnag yw’r ffaith fod cynifer wedi mynd ati i ddysgu ac i gofleidio’r Gymraeg, er na chawsant eu magu ynddi o’r crud.
Mae’r iaith hefyd yn bwysicach nag unrhyw garfan arbennig o bobl, oherwydd mae’n eiddo i bawb sy’n byw yng Nghymru, beth bynnag fo’u cefndir, eu statws, eu tueddfryd gwleidyddol, eu dosbarth cymdeithasol, eu crefydd, eu hil ac, ie, eu hiaith. Y gobaith yw y bydd y gynhysgaeth yn parhau – ac y bydd y niferoedd sy’n ei siarad yn ddigon i’w gwneud yn iaith gynaladwy. Maen nhw’n dweud bod iaith yn peidio â bod yn hanfod mewn cymdeithas unwaith y bo’r niferoedd sy’n ei siarad yn syrthio islaw canran arbennig. Gwae ni os gadawn i hynny ddigwydd i’r iaith Gymraeg ledled Cymru.
Er mwyn ein galluogi i ddirnad cymaint o drysor yw’r Gymraeg, rhaid i ni amgyffred hanes yr hyn sydd wedi digwydd yn y rhan hon o’r byd, gan gynnwys hanes trofaus yr iaith. Hanes Lloegr a’r Almaen at ei gilydd a ddysgir yn llawer o ysgolion Cymru, hyd yn oed y rhai Cymraeg eu cyfrwng. Gadewir i’r adrannau Cymraeg fwy na heb ddysgu yr ychydig hanes Cymru a gaiff disgyblion ein hysgolion. Mater o hap a damwain yw hynny, yn ddibynnol ar gynnwys y testunau gosod ar y pryd ac ar weledigaeth yr athrawon unigol.
Dyna un maes y gallasai Dyfodol i’r Iaith fynd i’r afael ag ef. Nod amgen Cymru yw’r iaith Gymraeg. Galluogi pobl Cymru i afael yn dynn yn llinyn hanes yr iaith ac yn sgil hynny eu hanes hwy eu hunain yw’r her fwyaf oll efallai.