Asterics a Sterics
Defnyddio’r Gymraeg ym myd busnes
Mae’r hawliau iaith gennym ni, siaradwyr Cymraeg, erbyn hyn – mae’r gwleidyddion yn ein sicrhau o hynny. Gan ychwanegu’r anogaeth – ‘Yr hyn sydd ei angen bellach ydi bod siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r iaith’. Ein bai ni ydi o.
Dwi am gyfyngu fy sylwadau’r pnawn yma i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith fusnes – neu yn hytrach, pa mor anodd yw ei defnyddio fel iaith fusnes. Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, cyn y ddwy ddeddf iaith ddiweddaraf, roedd hi’n weddol hawdd i wahanol adrannau o’r llywodraeth y mae’n rhaid i fusnesau ymwneud â nhw, wrthod gwasanaeth Cymraeg.
Ychydig o fusnesau oedd yn cynnal gweinyddiaeth gwbl Gymraeg bryd hynny, ond drwy ffonio’n gilydd a threfnu ymgyrch ar y cyd, mi lwyddon ni gyda chwmnïau fel Sain, Y Lolfa, Cymen, Siop Eirug Wyn, Ffilmiau’r Nant, i gael adrannau Treth ar Werth, Cyllid y Wlad, Tŷ’r Cwmnïau, WDA, DVLA ac ati i dderbyn gohebiaeth a pharatoi ffurflenni a gwasanaeth Cymraeg. Eu harfer nhw oedd rhoi asterics ar ôl enw’r cwmni – asterics yn dynodi mai cwmni Cymraeg oedd hwn, cwmni fyddai’n debyg o gael sterics oni châi o ddefnyddio’r iaith. Asterics yr Aborijini Cymraeg.
Pan saernïwyd y Bwrdd Iaith, yn fy niniweidrwydd dyma gredu mai’r swyddogion proffesiynol hyn bellach fyddai’n gwneud y gwaith o fonitro polisïau iaith adrannau’r llywodraeth, pigo crachod am bob ffurflen uniaith a gwasanaeth uniaith Saesneg, chwilio am gyfleon newydd i ddefnyddio’r iaith ac yn y blaen. Yr hyn wnes i am y flwyddyn gyntaf oedd anfon pob ffurflen a chwyn o’r fath at y Bwrdd Iaith, yn hytrach na threulio fy amser a fy arian fy hun yn cau’r bylchau yn y waliau. Ond yn fuan iawn mi ddysgais nad oedd swyddogion y Bwrdd Iaith yn baeddu eu dwylo gyda phethau o’r fath – roedd disgwyl i mi ohebu, ymgyrchu’n llwyddiannus neu ar ôl methu, cwyno wrth y Bwrdd Iaith. Roedd y gweld a’r creu, fel erioed, yn perthyn i’r sawl oedd am ddefnyddio’r iaith, nid yn rhan o agenda gweinyddwyr a gweision sifil.
Pan sefydlwyd Comisiynydd y Gymraeg a’i fyddin weinyddol y gwanwyn hwn, roeddwn i’n meddwl imi glywed rhywun yn gaddo y byddai’r swyddfa hon yn fwy cadarnhaol a phwerus. Ers mis Ebrill dan ni wedi cysylltu â swyddfa’r Comisiynydd chwe gwaith yn gofyn:
– iddyn nhw gysylltu â’r Undeb Rygbi i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gemau cwpan i glybiau llawr gwlad maen nhw’n eu trefnu
– iddyn nhw gadarnhau cais Adran Safonau Masnach Gwynedd fod y gair Cymraeg PEINT yr un mor ddilys â’r gair Saesneg PINT i ddynodi mesur ar wydrau cwrw
– iddyn nhw gysylltu â’r Swyddfa Bost i ganiatáu i ni roi PRYDAIN a TALWYD Y POST ar ein peiriant ffrancio yn hytrach na GREAT BRITAIN a POSTAGE PAID
– iddyn nhw gysylltu â Chyllid a Thollau oherwydd anallu’r adran i ateb llythyrau Cymraeg
– iddyn nhw gysylltu â Jane Hutt a Leighton Andrews gan fod penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i roi’r broses dendro ar gyfer gwerslyfrau Cymraeg yng ngofal cwmni Saesneg Bravo Solutions yn golygu bod y weinyddiaeth a’r ohebiaeth yn Saesneg
– iddyn nhw gysylltu â’r Swyddfa Masnachu Teg yn Llundain i’r oriel gael gohebiaeth a defnydd o wefan Gymraeg er mwyn adnewyddu ei thrwydded er mwyn parhau i fod yn rhan o Gynllun Casglu Celf adran gelfyddyd Llywodraeth y Cynulliad
Does dim un o’r materion yma wedi’u setlo eto er bod pum o’r chwe achos yn cyfeirio at sefyllfa sy’n anghyfreithiol fel mae hi ar hyn o bryd. Yr un ateb gawson ni bob tro – ‘anogwn aelodau’r cyhoedd i gwyno’n uniongyrchol i’r sefydliad dan sylw er mwyn rhoi cyfle iddynt ymateb i’r gwyn. Os na chewch ateb boddhaol mewn mis, anfonwch gwyn atom’. Mae’r meddylfryd o genedl o gwynwrs yn parhau. Dim cymorth ymarferol fel cyfeiriad swyddfa, enw cyswllt, llinell gyswllt, defnydd o Radbost. Sut ydach chi’n cwyno’n uniongyrchol wrth adran sy’n anwybyddu llythyrau Cymraeg i ddechrau arni?
Ym mhob un o’r chwe achos uchod, roedd ganddon ni gwyn, roeddan ni wedi gohebu ac wedi anfon copi o’r ohebiaeth i swyddfa’r Comisiynydd fel eu bod nhw’n medru dod â’r maen i’r wal yn gynt ac yn broffesiynol. Yn fwy na hynny, mae’r gyfraith bellach ar ein hochr ni. Mewn rhai achosion mae oedi am fis yn golygu cosb ariannol. Ond, fel erioed, yr ateb gawson ni – nid ein lle ni, nid ein dyletswydd ni ydi gwneud y gwaith o ymgyrchu. Er bod ‘hybu defnyddio’ a ‘hwyluso defnyddio’r Gymraeg’ yn rhan o swyddogaeth Comisiynydd y Gymraeg – dydi torchi’r llewys, gohebu a dadlau, treulio amser ar y we, chwilio am enwau a swyddfeydd, e-bostio neu ffonio er mwyn canfod pa swyddog sy’n gyfrifol, dal y ffôn am sawl pum munud ar y tro tra bo gwahanol opsiynau’n cael eu cynnig, ailadrodd gwybodaeth am y deddfau iaith ac ailesbonio’r sefyllfa sy’n bodoli yng Nghymru, gwrthod derbyn anawsterau, myllio a dal ati nes ennill yr hawl i ddefnyddio dy iaith ddim yn perthyn i ddisgrifiad swydd swyddfa Siambrau’r Farchnad yn Heol Eglwys Fair.
Ac os yw’r cyfan yn flêr ar ôl cyfnod o fis, mae’r rheidrwydd arnom ni i AIL gysylltu gyda swyddfa’r Comisiynydd, yn hytrach nag fel arall. Mae’n golygu oedi cyn derbyn taliadau, oedi cyn medru archebu nwyddau gyda’r Gymraeg arnyn nhw, methu â defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, colli contractau. Mae’n golygu bygwth gyrru i’r Steddfod heb drwydded am nad yw’r DVLA yn ateb. Mae’n golygu tafellau cyson o amser y busnes. Ond yn waeth na’r cyfan, mae’n golygu bod pob cwmni ac unigolyn yn gwneud hyn i gyd o’r dechrau gyda phob achos sy’n codi, yn lle bod un corff yn canoli’r holl gwynion, yn ymgyrchu yng nghryfder niferoedd yn ogystal â chyfiawnder.
Un enghraifft. Ymgyrch y peiriant ffrancio. Mae gan gwmnïau teledu Cymraeg, gweisg, mudiadau fel yr Urdd, sefydliadau fel y Llyfrgell a’r Amgueddfa a’r Cyngor Llyfrau, a lleng o fusnesau Cymraeg eraill, beiriannau ffrancio. Byddai’n ymgyrch lawer cryfach pe bai’n cynnwys yr holl swyddfeydd hyn a’r tri phrif gwmni ffrancio Prydeinig. Fel mae ar hyn o bryd, un cwmni sy’n gwneud y cais ac mae’n hawdd i’r awdurdodau fod yn drafferthus efo fo.
Mae gan y Gymraeg statws swyddogol; mae gan adrannau’r llywodraeth ofynion cyfreithiol. Y sefyllfa newydd sydd ganddon ni ydi mai adrannau o’r llywodraeth sy’n torri’r gyfraith bellach ac mae’n rhaid i ni sy’n ymgyrchu dros yr iaith ymateb i hyn yn well nac ydan ni’n ei wneud ar hyn o bryd.
Mae dwy ran i saeth: y paladr a’r esgyll. Mae’r paladr – blaen y saeth a chryfder yr ergyd y tu ôl iddi – wedi cyrraedd y nod o safbwynt bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Ail ran y saeth ydi’r esgyll – y plu, sy’n lledu y tu ôl i’r paladr. Y plu sy’n cadw’r llwch oddi ar y ddeddf a gofalu ei bod hi’n cael ei gweithredu. Mae angen llawer iawn, iawn o blu a gwaith diflas, llai uniongyrchol ydi o ac, a bod yn onest, mae’n waith sy’n niwsans ar ben bob dim arall. Ond niwsans angenrheidiol.
Gwaith i ni, y rhai sy’n defnyddio’r iaith ac yn dymuno ehangu’r defnydd ohoni, ydi o ac mae angen uno’r ymdrechion unigol yn gryf ac yn greadigol yn hytrach na gadael pethau i adrannau llwyd a llipa o’r llywodraeth. Oherwydd mae o’n berffaith wir – ei defnyddio hi ydi dyfodol yr iaith.